pN(5)023 – Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio pedwar darn o ddeddfwriaeth Cymru yn ymwneud â gwastraff, sy'n gweithredu Cyfarwyddebau Ewropeaidd amrywiol sy'n ymwneud â rheoli gwastraff i sicrhau bod y gyfundrefn wastraff yn gallu parhau i weithredu'n effeithiol ar ôl i'r DU adael yr UE.

Nid yw'r Rheoliadau'n gwneud unrhyw newidiadau nac yn dileu unrhyw safonau amgylcheddol. Mae'r addasiadau yn angenrheidiol i destun y ddeddfwriaeth ddomestig, gan ddileu neu ddiwygio cyfeiriadau at Gyfarwyddebau'r UE a thelerau cysylltiedig yr UE, er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth gwastraff yn parhau i weithredu fel y’i bwriedir ar ôl ymadael â’r UE. Nid yw'r newidiadau yn newid effaith unrhyw ddiffiniadau presennol ond fe'u gwneir er mwyn i'r diffiniadau a gynhwysir yn y Cyfarwyddebau, na fyddant yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl y diwrnod gadael, weithio'n effeithiol.

Cafodd y rheoliadau hyn eu gosod at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A

Argymhelliad y Pwyllgor ynghylch y weithdrefn briodol

Rydym wedi trafod y meini prawf a nodir yn Rheol Sefydlog 21.3C.

[Rydym yn argymell mai gweithdrefn y penderfyniad negyddol yw'r weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn. Er bod y Rheoliadau'n gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol, a fyddai fel arfer yn ddarostyngedig i'r weithdrefn graffu gadarnhaol, nid yw'r newidiadau a wneir yn newid sylwedd y safonau amgylcheddol a dim ond yn gwneud y newidiadau angenrheidiol i'r gyfraith sy'n ofynnol er mwyn gweithio'n effeithiol ar ôl y diwrnod gadael.]

NEU

[Am y rheswm canlynol, rydym yn argymell mai gweithdrefn y penderfyniad cadarnhaol yw'r weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn:

1.     Diwygio deddfwriaeth sylfaenol

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol – Mesur Gwastraff (Cymru) 2010. Er y gellid ystyried y diwygiadau hyn fel rhai ‘technegol a mân’, maent, serch hynny, yn delio â chyfeiriadau at ddiffiniadau cyfreithiol pwysig. Felly, mae'n briodol i'r newidiadau hyn i ddeddfwriaeth sylfaenol fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn graffu gadarnhaol.

Ymateb y Llywodraeth

[Os nad oes argymhelliad i ddyrchafu, mewnosoder y testun canlynol yma: Nid oes angen esboniad gan Lywodraeth Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.9B.]

[Os oes argymhelliad i ddyrchafu, mewnosoder y testun canlynol: Os nad yw Llywodraeth Cymru yn cytuno ag argymhelliad y Pwyllgor o ran y weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn, rhaid i Lywodraeth Cymru egluro pam ei bod yn anghytuno ag argymhelliad y Pwyllgor yn unol â Rheol Sefydlog 27.9B.]

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

12 Chwefror 2019